#83 - Sgwrs gyda Dr Iwan Owen- Deugain mlynedd o ddarlithio rheolaeth glaswelltir ym Mhrifysgol Aberystwyth
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:
Bydd Cennydd Jones, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a ffermwr rhan amser yn cael cwmni Dr Iwan Owen. Mae Iwan yn enw adnabyddus i lawer o gyn-fyfyrwyr Amaeth Prifysgol Aberystwyth, lle bu'n ddarlithydd rheolaeth glaswelltir am ddeugain mlynedd cyn iddo ymddeol yn llawn-haeddiannol yn 2021. Yn y rhifyn hwn fe gawn glywed am ei daith i fod yn ddarlithydd yn WAC (Welsh Agricultural Collage), pam fod gwneud gradd neu addysg bellach yn ddefnyddiol mewn diwydiant y mae nifer yn ei ystyried fel un ymarferol. Fe gawn hefyd gyfle i glywed ei argraffiadau am ddyfodol amaeth yng Nghymru.