Creu ymdeimlad o berthyn

Baby Steps Into The Curriculum - A podcast by Mudiad Meithrin

Mae perthyn yn deimlad o hapusrwydd a theimlad eich bod yn cael eich derbyn yn eich cynefin. Mae'n bwysig i ddatblygiad plant ac mae'n llwybr datblygiadol arall yng Nghwricwlwm Cymru. Mae Hannah Rowley, dirprwy arweinydd Cylch Meithrin Nant Dyrys yn Nhreorci, yn ein cyflwyno i berthyn o fewn y Cylch Meithrin. Cawn glywed sut mae teithiau lleol i siopau trin gwallt, siopau elusen ac i’r gymuned ehangach yn rhai o’r ffyrdd y mae Hannah a’r tîm yn eu defnyddio i greu ymdeimlad o berthyn i blant.