#4 – John Yeomans (Cyfnewidfa Rheolaeth)

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

Mae’r bennod hon yn dod o ardal Adfa ger y Drenewydd, cartref John Yoemans ai deulu ar Fferm Llwyn y Brain. Mae John yn ffermio mewn partneriaeth â’i wraig, Sarah ac mae’r fferm yn ymestyn i 284 erw. Mae nhw cadw buches sugno o 70 o wartheg a diadell o 500 o ddefaid Beulah. Y rheswm mae Aled a Jim wedi mynd i weld John yw i glywed mwy am ei brosiect ymchwil trwy Gyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio a'i galluogodd i ymweld â Iwerddon a’r Ffindir i ehangu ei wybodaeth am wella ein defnydd o borfa a datblygu gwell system o ddosbarthu carcasau cig eidion a chig oen. Mae John yn mynegi ei farn ei hun, nid barn Cyswllt Ffermio.