#57 – Fferm fynydd bîff a defaid sydd ddim yn aros yn llonydd

Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear - A podcast by Farming Connect

Categories:

“Gallwn ddim aros yn llonydd, rhaid inni edrych ymlaen i’r dyfodol”. Dyna’r neges gan y ddau frawd, Aled a Dylan Jones o Fferm Rhiwaedog ger y Bala. Fel Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio, mae Aled a Dylan wedi bod yn treiali dechnoleg newydd i wella ffrwythlondeb o fewn y fuches ac edrych ar ffyrdd i neud y gorau o’u glaswellt, gyda’r nod o besgi wyn heb ddwysfwyd.